Hen ddywediad, ond pa mor wir!
Dw i wedi bod mor dwp, a wedi cael fy nhwyllo mor dda, gan rywun ro'n i'n ei hystyried yn ffrind go iawn. Ond yn amlwg, dyw hi ddim.
Dechreuodd ym mis Awst - yn ystod yr wythnos 13 Awst: galwad ffôn oddi wrth YK (wnaf i ddim ei henwi hi'n gyhoeddus - 'sa i'n gwybod pam, ond dyna ni). Roedd hi eisiau siarad â rhywun - es i draw i'w thŷ'n syth - a chael hanes ei thrafferthion ariannol - arian yr oedd hi wedi benthyg gan ffrind a oedd nawr yn ei hasslo hi i'w dalu'n ôl.
Hanes, yn ôl Y - roedd hi rhyw 18 mis yn gynt yn agos iawn at golli'r tŷ, oherwydd problemau wrth dalu'r mortgeis. Roedd ei ffrind wedi cynnig benthyg £5,000 - dim brys i'w dalu'n ôl, a doedd Y ddim wedi talu ceiniog yn ôl. Nawr, gan fod bywyd ei ffrind wedi'i chwalu (partner wedi'i gadael a dim arian 'da hi) roedd hi'n mynnu bod Y yn talu'r holl swm yn ôl yn syth. Afresymol iawn ei hymddygiad - yn ffonio ac yn anfon negeseuon testun cas drwy'r amser. Ond byddai'r sefyllfa'n cael ei datrys - roedd Y yn gweld yr Adran Lles a byddwn nhw'n rhoi benthyciad iddi er mwyn iddi dalu'r ffrind. Byddai'r gweithle wedyn yn cymryd yr arian fesul tipyn bob mis.
23 Awst: galwad ffôn - Y mewn cyflwr wael iawn. Roedd hi wedi talu £3000, ond doedd y bygythiadau ddim wedi stopio. Ffrind yn bygwth hyn a'r llall, a doedd Y ddim yn deall pam. Roedd hi wedi trefnu cael y £2000 arall, a bydd yr arian gyda hi o fewn 8 niwrnod - dim ond rhaid iddi fynd i lofnodi'r papurau 'fory (sef 24 Awst) a bydd yr holl arian 'da hi erbyn 3 Medi. Ond roedd angen mawr o leiaf rhai arian i dalu i'w ffrind cyn hynny.
Fi'n esbonio taw dim arian sbâr gyda fi - yr unig arian yn y banc oedd beth oedd yn ei angen er mwyn i mi dalu'r biliau ym mis Medi - rhyw £700. Ond yn y pendraw, cytunais fenthyg hyn iddi dros dro ar yr amod y byddwn yn ei gael yn syth i'r arian dod drwodd. Felly, dyma fi'n mynd i'r banc a chodi £500 23 Medi, ac yn ei rhoi i Y. Es yn ôl i'r banc dydd Gwener 24ain, codi £200 ac yn ei roi, mewn amlen, i Y cyn imi fynd i Lan Llyn.
Dod yn ôl o Lan Llyn nos Sul 26ain a darganfod nes ymlaen bod Y a theulu wedi mynd i'r Gŵer am wythnos - iawn, wel, pam lai - doedden nhw ddim wedi cael gwyliau (finnau chwaith, ond dim ots).
Dyma Y'n ôl yn yr eglwys 2 Medi - dim gair am y benthyciad, ond disgwyl tan 'fory mae'n debyg. Cyfarfod cymdeithasu a chodi arian nos Lun 3ydd - dim gair eto. Ond 'falle roedd yn cymryd dipyn mwy nag 8 niwrnod - dechrau poeni dipyn, ond dim yn ormodol.
Dim gair ynglŷn â'r arian drwy'r wythnos er mod i wedi ei gweld, fel arfer, sawl gwaith - yn gyfeillgar iawn, sôn am hyn a'r llall, cael coffi, ac yn y blaen.
Yr wythnos wedyn, 'sa i'n cofio pa diwrnod yn anffodus, dyma fi'n cael coffi a gadael y tŷ wrth iddi fynd i godi'r plant o'r ysgol. A dyma hi'n dweud bod hi wedi mynd i weld T i ddweud yr holl hanes iddo fe, oherwydd bod y bygythiadau yn parhau, a doedd hi ddim yn awyddus greu problemau i'r plwyf. Felly, cynnig ymdiswyddo wnaeth hi, ond doedd dim rhaid. T yn gefnogol iawn, a'r ffrind dim yn ffrind go iawn i ymddwyn fel hyn. A, gyda llaw, "byddi di'n cael rhai o'th arian yn ôl cyn bo hir". Doedd hi ddim wedi cael y £2000 oherwydd basai wedi bod yn rhaid iddi wneud rhywbeth anghyfreithlon a, fel roedd hi wedi dweud wrth T, "must be something in my genes against that". Diwedd y sgwrs dyma ffordd i ddweud?
Daeth lythyr gan ei ffrind 24 Medi: doedd hi ddim yn awyddus gadw'r peth gartref, felly mae 'da fi i'w gadw'n ddiogel. Croeso i mi ei ddarllen os dw i'n mo'yn - bygythiadau eto, ac yn mynnu cael £1000 y mis tan fod y benthyciad wedi cael ei dalu'n llawn. Rhoddais i'r llythyr mewn drar, ond wrth i mi beidio cysgu nos Fawrth (poeni am sut ymdopi) dyma fi'n ei ddarllen ac yn falch fy mod i, oherwydd ces i gadarnhad taw celwydd ar ôl celwydd ro'n i wedi cael - ro'n i'n amau cyn darllen y llythyr.
Doedd hi ddim wedi benthyg £5000, ond yn agosach at 7. Doedd hi ddim wedi talu £3700 yn ôl (sef £3000 a gafodd gan yr Adran Lles, a £700 gan fi) ond £2200 (£1500 a £700). Doedd hi ddim wedi rhoi esboniad, na chynnig talu peth yn ôl, ond roedd hi yn y cyfamser wedi prynu llu o bethau. (Nabod y teimlad - yn ystod mis Awst pan nad oedd ceiniog gen i, ac yn methu talu'r biliau na phrynu bwyd hyd yn oed - roedd hi'n ymfalchio yn y goleuadau Nadolig newydd roedd hi wedi eu prynu).
Ond dal i aros wnes i tan i'r Ffair Hydref - ro'n i wedi cael llond bol, a gofyn a oedd modd iddi dalu o leiaf rywfaint yn ôl) "Dydd Llun"
Daeth ddydd Llun (1 Hydref) a dyma'i mab yn dod i'r fflat gydag amlen - £150 yn yr amlen ynghyd â nodyn yn addo mwy "yfory".
Wel, nos Iau (4 Hydref) - dim ceiniog mwy, dim esboniad / ymddiheuriad chwaith - fel mod i ddim yn bodoli. Bron ddim yn ei gweld nawr, heblaw am yr eglwys - 'sa i'n cwyno, ond mae'n gwneud pethau'n anodd iawn i mi yn y plwyf - dim eisiau bod yn yr un ystafell, ond dim dewis gan ein bod ni'n cydweithio cymaint.
Diweddaraf y post hwn pan (os) ddaw mwy o newyddion. Am nawr dw i wedi anfon neges ebost, eitha swta, iddi am esboniad. Debygol o ladd y gyfeillgarwch yn gyfan gwbl - 'sdim help,
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
1 comment:
Ydych chi mewn argyfwng ariannol, yn chwilio am arian i ddechrau'ch busnes eich hun neu i dalu eich biliau ?, Mae Benthyciad PayLATER yn cael pob math o fenthyciadau ar gyfradd llog isel o 2% Gwneud cais nawr trwy e-bost yn: ( paylaterloan@zoho.com ) NEU WhatsApp ( +1 929 222 7518 )
Post a Comment