Wel, roedd heddiw'n anodd. Cyfarfod - Y yn ei arwain. Perthynas eitha - sa i'n gwybod sut ei ddisgrifio - amlwg ddim yn gyfeillgar bellach. Bron fel bod ni'n anwybyddu ein gilydd er ein bod ni'n trafod gweithgareddau ac ati - mewn grŵp, felly dim rhaid siarad â'n gilydd yn uniongyrchol.
Sylwais ddoe ac heddiw yr un peth - dim byd yn amlwg, ond dim cyfarch, dim sut wyt ti, dim byd felly oddi wrthi. Tybed sut mae hi'n teimlo? Oes ots? Dylai fod, ond dim yn wir.
A'r pethau bach? Wel, dw i'n blentynaidd 'falle, ond dyw hi ddim yn mynd i hawlio unrhyw arian oddi wrth y plwyf am bethau a brynodd ar gyfer y gweithgaredd diwetha'. Fel arfer, baswn yn cymeradwyo hyn, ond fi jyst yn teimlo bod hyn yn annheg - ffein bod yn hael, os chi'n gallu fforddio bod - ond o dan yr amgylchiadau, fe ddylai, fi'n credu, ail feddwl ei blaenoriaethau. Debyg ni fydd neb yn cytuno, ond dyna sut dw i'n teimlo.
Peth arall dw i wedi'i sylwi - sa i wedi cael unrhyw galwad ffôn, neges e-bost, ac yn y blaen am sbel - ar wahân i'r esboniad y soniais amdano o flaen, a phethau angenrheidiol ar gyfer y cylchlythyr - rhaid derbyn na fydd pethau'n dilyn yr hen drefn o hyn ymlaen. Wrth drio helpu, fi wedi llwyddo colli ffrind - neu a dw i? Ai ffrind sy'n dy drin mor wael? Wn i ddim.
Unrhyw sôn am weddill yr arian? Wrth gwrs nac oedd - a fi'n dechrau credu na fydd chwaith.
Cawn weld
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment