12/10/2007

Mae'n gwaethygu

Wel, dw wir yn teimlo'n sâl. Newydd ddod o hyd i ffurflen gais ar gyfer y Ffair Grefftydd, a difalwch at bwy mae'r arian yn cael ei anfon!
Mae'n teimlad corfforol iawn - dw i ddim eisiau bod yn gyfrifol am argraffu'r ffurflenni hyn - mae'n mynd yn erbyn pob synnwr cyffredin, ond sa i'n gwybod sut alla i wrthod heb wneud y sefyllfa'n gyhoeddus, a dw i ddim am wneud 'ny (er y hoffwn) - dim ond dial arni fasai, a 'sa i'n mynd mor is a 'ny.
Wedi gofyn am eglurhad ynglŷn â chyfeiriad - cawn weld a fydd ateb, a beth bydd.
'Falle, dylwn i drafod y sefyllfa gydag offeiriad y tu fa's i'r plwyf - ni fydd yn 'nabod neb, a chaf farn wrthrychol felly. Meddlyia am hyn

09/10/2007

Pethau bach yn 'ngwylltio

Wel, roedd heddiw'n anodd. Cyfarfod - Y yn ei arwain. Perthynas eitha - sa i'n gwybod sut ei ddisgrifio - amlwg ddim yn gyfeillgar bellach. Bron fel bod ni'n anwybyddu ein gilydd er ein bod ni'n trafod gweithgareddau ac ati - mewn grŵp, felly dim rhaid siarad â'n gilydd yn uniongyrchol.
Sylwais ddoe ac heddiw yr un peth - dim byd yn amlwg, ond dim cyfarch, dim sut wyt ti, dim byd felly oddi wrthi. Tybed sut mae hi'n teimlo? Oes ots? Dylai fod, ond dim yn wir.
A'r pethau bach? Wel, dw i'n blentynaidd 'falle, ond dyw hi ddim yn mynd i hawlio unrhyw arian oddi wrth y plwyf am bethau a brynodd ar gyfer y gweithgaredd diwetha'. Fel arfer, baswn yn cymeradwyo hyn, ond fi jyst yn teimlo bod hyn yn annheg - ffein bod yn hael, os chi'n gallu fforddio bod - ond o dan yr amgylchiadau, fe ddylai, fi'n credu, ail feddwl ei blaenoriaethau. Debyg ni fydd neb yn cytuno, ond dyna sut dw i'n teimlo.
Peth arall dw i wedi'i sylwi - sa i wedi cael unrhyw galwad ffôn, neges e-bost, ac yn y blaen am sbel - ar wahân i'r esboniad y soniais amdano o flaen, a phethau angenrheidiol ar gyfer y cylchlythyr - rhaid derbyn na fydd pethau'n dilyn yr hen drefn o hyn ymlaen. Wrth drio helpu, fi wedi llwyddo colli ffrind - neu a dw i? Ai ffrind sy'n dy drin mor wael? Wn i ddim.
Unrhyw sôn am weddill yr arian? Wrth gwrs nac oedd - a fi'n dechrau credu na fydd chwaith.
Cawn weld

07/10/2007

Pethau'n dal yn anesmwyth

Wel, roedd tipyn o welliant ddoe: daeth Y i'r eglwys, a rhoddodd £100 mwy i mi - yn gyfeillgar iawn ei hagwedd, a dweud bod neges ebost i esbonio. Doedd yr esboniad ddim yn glir iawn, a pham na wnaeth hi gysylltu neu ateb y neges a anfonais nos Iau cyn 'ny?
Er yr ymdrech i dalu rhai o'r arian yn ôl, dw i'n dal i deimlo'n siomedig - mae'r chwerwdeb wedi mynd, ond dw i'n gwybod na fydda i byth yn cael fy nhwyllo ganddi eto.
A hithau'n dweud ei bod hi'n awyddus ymuno â gwasanaeth er cof fy chwaer - dim gobaith. 'Falle, dyna'r broblem - yn debyg iawn i'm chwaer yn y ffordd mae wedi fy nhrin - mae fy mrodyr wedi gwneud yr un peth mwy nag unwaith hefyd - ond mae'r label dwpsin a oedd arna i'n mynd i ddiflannu am fyth - sa i'n teimlo ar hyn o bryd mod i'n gallu ymddiried yn neb. Gobeithio i'r teimlad diflannu cyn bo hir, oherwydd mae'n effeithio ar bopeth yn fy mywyd, a dyw hynny ddim yn iachus.

04/10/2007

Gyda ffrindiau fel hyn

Hen ddywediad, ond pa mor wir!

Dw i wedi bod mor dwp, a wedi cael fy nhwyllo mor dda, gan rywun ro'n i'n ei hystyried yn ffrind go iawn. Ond yn amlwg, dyw hi ddim.

Dechreuodd ym mis Awst - yn ystod yr wythnos 13 Awst: galwad ffôn oddi wrth YK (wnaf i ddim ei henwi hi'n gyhoeddus - 'sa i'n gwybod pam, ond dyna ni). Roedd hi eisiau siarad â rhywun - es i draw i'w thŷ'n syth - a chael hanes ei thrafferthion ariannol - arian yr oedd hi wedi benthyg gan ffrind a oedd nawr yn ei hasslo hi i'w dalu'n ôl.

Hanes, yn ôl Y - roedd hi rhyw 18 mis yn gynt yn agos iawn at golli'r tŷ, oherwydd problemau wrth dalu'r mortgeis. Roedd ei ffrind wedi cynnig benthyg £5,000 - dim brys i'w dalu'n ôl, a doedd Y ddim wedi talu ceiniog yn ôl. Nawr, gan fod bywyd ei ffrind wedi'i chwalu (partner wedi'i gadael a dim arian 'da hi) roedd hi'n mynnu bod Y yn talu'r holl swm yn ôl yn syth. Afresymol iawn ei hymddygiad - yn ffonio ac yn anfon negeseuon testun cas drwy'r amser. Ond byddai'r sefyllfa'n cael ei datrys - roedd Y yn gweld yr Adran Lles a byddwn nhw'n rhoi benthyciad iddi er mwyn iddi dalu'r ffrind. Byddai'r gweithle wedyn yn cymryd yr arian fesul tipyn bob mis.

23 Awst: galwad ffôn - Y mewn cyflwr wael iawn. Roedd hi wedi talu £3000, ond doedd y bygythiadau ddim wedi stopio. Ffrind yn bygwth hyn a'r llall, a doedd Y ddim yn deall pam. Roedd hi wedi trefnu cael y £2000 arall, a bydd yr arian gyda hi o fewn 8 niwrnod - dim ond rhaid iddi fynd i lofnodi'r papurau 'fory (sef 24 Awst) a bydd yr holl arian 'da hi erbyn 3 Medi. Ond roedd angen mawr o leiaf rhai arian i dalu i'w ffrind cyn hynny.

Fi'n esbonio taw dim arian sbâr gyda fi - yr unig arian yn y banc oedd beth oedd yn ei angen er mwyn i mi dalu'r biliau ym mis Medi - rhyw £700. Ond yn y pendraw, cytunais fenthyg hyn iddi dros dro ar yr amod y byddwn yn ei gael yn syth i'r arian dod drwodd. Felly, dyma fi'n mynd i'r banc a chodi £500 23 Medi, ac yn ei rhoi i Y. Es yn ôl i'r banc dydd Gwener 24ain, codi £200 ac yn ei roi, mewn amlen, i Y cyn imi fynd i Lan Llyn.

Dod yn ôl o Lan Llyn nos Sul 26ain a darganfod nes ymlaen bod Y a theulu wedi mynd i'r Gŵer am wythnos - iawn, wel, pam lai - doedden nhw ddim wedi cael gwyliau (finnau chwaith, ond dim ots).

Dyma Y'n ôl yn yr eglwys 2 Medi - dim gair am y benthyciad, ond disgwyl tan 'fory mae'n debyg. Cyfarfod cymdeithasu a chodi arian nos Lun 3ydd - dim gair eto. Ond 'falle roedd yn cymryd dipyn mwy nag 8 niwrnod - dechrau poeni dipyn, ond dim yn ormodol.

Dim gair ynglŷn â'r arian drwy'r wythnos er mod i wedi ei gweld, fel arfer, sawl gwaith - yn gyfeillgar iawn, sôn am hyn a'r llall, cael coffi, ac yn y blaen.

Yr wythnos wedyn, 'sa i'n cofio pa diwrnod yn anffodus, dyma fi'n cael coffi a gadael y tŷ wrth iddi fynd i godi'r plant o'r ysgol. A dyma hi'n dweud bod hi wedi mynd i weld T i ddweud yr holl hanes iddo fe, oherwydd bod y bygythiadau yn parhau, a doedd hi ddim yn awyddus greu problemau i'r plwyf. Felly, cynnig ymdiswyddo wnaeth hi, ond doedd dim rhaid. T yn gefnogol iawn, a'r ffrind dim yn ffrind go iawn i ymddwyn fel hyn. A, gyda llaw, "byddi di'n cael rhai o'th arian yn ôl cyn bo hir". Doedd hi ddim wedi cael y £2000 oherwydd basai wedi bod yn rhaid iddi wneud rhywbeth anghyfreithlon a, fel roedd hi wedi dweud wrth T, "must be something in my genes against that". Diwedd y sgwrs dyma ffordd i ddweud?

Daeth lythyr gan ei ffrind 24 Medi: doedd hi ddim yn awyddus gadw'r peth gartref, felly mae 'da fi i'w gadw'n ddiogel. Croeso i mi ei ddarllen os dw i'n mo'yn - bygythiadau eto, ac yn mynnu cael £1000 y mis tan fod y benthyciad wedi cael ei dalu'n llawn. Rhoddais i'r llythyr mewn drar, ond wrth i mi beidio cysgu nos Fawrth (poeni am sut ymdopi) dyma fi'n ei ddarllen ac yn falch fy mod i, oherwydd ces i gadarnhad taw celwydd ar ôl celwydd ro'n i wedi cael - ro'n i'n amau cyn darllen y llythyr.

Doedd hi ddim wedi benthyg £5000, ond yn agosach at 7. Doedd hi ddim wedi talu £3700 yn ôl (sef £3000 a gafodd gan yr Adran Lles, a £700 gan fi) ond £2200 (£1500 a £700). Doedd hi ddim wedi rhoi esboniad, na chynnig talu peth yn ôl, ond roedd hi yn y cyfamser wedi prynu llu o bethau. (Nabod y teimlad - yn ystod mis Awst pan nad oedd ceiniog gen i, ac yn methu talu'r biliau na phrynu bwyd hyd yn oed - roedd hi'n ymfalchio yn y goleuadau Nadolig newydd roedd hi wedi eu prynu).

Ond dal i aros wnes i tan i'r Ffair Hydref - ro'n i wedi cael llond bol, a gofyn a oedd modd iddi dalu o leiaf rywfaint yn ôl) "Dydd Llun"

Daeth ddydd Llun (1 Hydref) a dyma'i mab yn dod i'r fflat gydag amlen - £150 yn yr amlen ynghyd â nodyn yn addo mwy "yfory".

Wel, nos Iau (4 Hydref) - dim ceiniog mwy, dim esboniad / ymddiheuriad chwaith - fel mod i ddim yn bodoli. Bron ddim yn ei gweld nawr, heblaw am yr eglwys - 'sa i'n cwyno, ond mae'n gwneud pethau'n anodd iawn i mi yn y plwyf - dim eisiau bod yn yr un ystafell, ond dim dewis gan ein bod ni'n cydweithio cymaint.

Diweddaraf y post hwn pan (os) ddaw mwy o newyddion. Am nawr dw i wedi anfon neges ebost, eitha swta, iddi am esboniad. Debygol o ladd y gyfeillgarwch yn gyfan gwbl - 'sdim help,